Telerau ac Amodau
Telerau ac Amodau
Amodau defnyddio ein gwefan
1.Mae’r wefan hon yn hyrwyddo’r busnes y cyfeirir ato arno. Yn yr amodau hyn, byddwn yn cyfeirio at y busnes hwn fel yr ‘Hysbysebwr’.
2.Defnyddir ystod eang o hawliau eiddo deallusol yn y wefan hon ac yn ymwneud â hi, gan gynnwys:
- nodau masnach a logos yr Hysbysebwr;
- dyluniad, testun, graffeg a chynnwys arall y tudalennau gwe ar y wefan hon, ynghyd â’r holl gyfeiriadau gwe sy’n gysylltiedig â’r tudalennau gwe hynny; a
- yr holl feddalwedd a ddefnyddir mewn perthynas â’r wefan hon.
3.Yr Hysbysebwr yw naill ai perchennog neu drwyddedai awdurdodedig yr hawliau eiddo deallusol hyn.
Ynglŷn â’r amodau hyn
4.Os ydych chi’n cyrchu neu’n defnyddio unrhyw ran o’r wefan hon rydych yn cytuno i’r amodau hyn. Os nad ydych am gytuno i’r amodau hyn, peidiwch â chyrchu na defnyddio’r wefan hon.
5.Gallwn newid yr amodau hyn ar unrhyw adeg heb roi rhybudd i chi. Gwiriwch yr amodau hyn o bryd i’w gilydd am unrhyw newidiadau. Drwy barhau i ddefnyddio’r wefan rydych chi’n cytuno i’r holl newidiadau rydym ni’n eu gwneud i’r amodau hyn.
Defnyddio’r wefan hon
6.Rydym ni’n casglu ac yn defnyddio gwybodaeth yn unol â’n Polisi Preifatrwydd. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n cytuno i’r ffordd yr ydym ni’n casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth.
7.Ni allwch ddefnyddio’r wefan hon:
- at unrhyw ddiben anghyfreithlon;
- i anfon sbam;
- i niweidio, bygwth, cam-drin neu aflonyddu ar berson arall, neu mewn ffordd sy’n ymosod ar breifatrwydd rhywun neu sydd (yn ein barn resymol ni) yn sarhaus neu’n annerbyniol neu’n niweidiol i ni, ein cwsmeriaid neu gyflenwyr;
- i greu, gwirio, cadarnhau, diweddaru neu ddiwygio eich cronfeydd data, cofnodion, cyfeiriaduron, rhestrau cwsmeriaid, rhestrau postio neu restrau darpar gwsmeriaid eich hun neu rai rhywun arall;
- i ymyrryd ag unrhyw ran o’r wefan, diweddaru neu newid unrhyw ran o’r wefan;
- mewn ffordd sy’n effeithio ar sut mae’n cael ei redeg;
- mewn ffordd sy’n gosod baich afresymol neu anghymesur o fawr ar ein systemau cyfathrebu a thechnegol ni neu rai ein cyflenwyr, fel y penderfynwn ni; neu
- ddefnyddio unrhyw ddulliau awtomataidd i fonitro neu gopïo’r wefan neu ei chynnwys, neu i ymyrryd â sut mae’r wefan yn gweithio neu geisio ymyrryd â sut mae’r wefan yn gweithio.
Ymwadiadau
8.Rydych chi’n defnyddio’r wefan ar eich menter eich hun.
9.Ni ddylech ddibynnu ar y wefan am gyngor.
10.Cyn belled ag y mae’r cyfreithiau perthnasol yn caniatáu, nid ydym yn gwarantu:
- na fydd unrhyw broblemau gyda’r ffordd rydych yn defnyddio’r wefan; neu
- bod y cyfrifiadur neu’r gweinydd rydych yn ei ddefnyddio i gyrchu’r wefan yn rhydd o firysau neu raglenni niweidiol eraill.
Cyfyngiadau ar ein hatebolrwydd
- Nid oes unrhyw gyfyngiad ar ein hatebolrwydd ni nac ar atebolrwydd y rhai sy’n darparu ein gwasanaethau os bydd rhywun yn marw neu’n cael anaf oherwydd ein hesgeulustod ni neu oherwydd ein bod wedi cyflawni twyll.
12.O dan unrhyw amgylchiadau, ni fydd yr Hysbysebwr, perchennog neu weithredwr y wefan hon, nac unrhyw un o gwmnïau eu grŵp, eu gweithwyr, eu swyddogion na’u hasiantau, nac unrhyw sefydliad arall sy’n ymwneud â chreu, cynhyrchu, cynnal neu ddosbarthu’r wefan, yn atebol am unrhyw golled o ran:
- elw;
- busnes neu gyfleoedd busnes;
- arbedion rydych chi’n disgwyl eu gwneud;
- ewyllys da;
- defnyddio gwybodaeth, neu lygredd i wybodaeth; neu
- wybodaeth.
13.Os na fyddwn yn cydymffurfio â’r telerau hyn, dim ond am golledion yr ydych chi wedi’u dioddef o ganlyniad uniongyrchol i hynny y byddwn yn atebol. Nid ydym yn atebol i chi am unrhyw golledion eraill, p’un a yw’r colledion hynny oherwydd nad ydym wedi cydymffurfio â’n rhwymedigaethau neu ein contract, oherwydd rhywbeth rydym wedi’i wneud neu heb ei wneud drwy esgeulustod, oherwydd datganiadau difenwol, atebolrwydd am gynnyrch, neu fel arall o ganlyniad i:
- ddefnyddio neu ddibynnu ar y wefan;
- methu â defnyddio’r wefan;
- unrhyw gamgymeriad, diffyg, methiant i wneud rhywbeth, gwybodaeth ar goll, neu feirws ar y wefan, neu os nad yw’n gweithredu’n iawn oherwydd digwyddiadau y tu hwnt i’n rheolaeth, megis (ond heb fod yn gyfyngedig i) ymyriadau i gyfathrebu a rhwydweithiau ac amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth;
- dwyn, dinistrio gwybodaeth neu rywun yn cyrchu ein cofnodion, rhaglenni neu wasanaethau heb ein caniatâd ni;
- nwyddau, cynhyrchion, gwasanaethau neu wybodaeth a dderbynnir drwy unrhyw wefan neu sy’n cael eu hysbysebu ar unrhyw wefan yr ydym yn rhoi cyswllt iddi o’r wefan hon; neu
- unrhyw wybodaeth, data, neges neu ddeunydd arall yr ydych chi’n e-bostio, ei bostio, ei uwchlwytho, ei atgynhyrchu, ei anfon, neu’n ei ddosbarthu neu ei dderbyn fel arall gan ddefnyddio’r wefan.
Y cytundeb cyfan
14.Mae’r amodau hyn yn ffurfio’r cytundeb cyfan rhyngoch chi a ni o ran sut rydych chi’n defnyddio’r wefan. Os bydd llys yn penderfynu nad yw amod yn ddilys, bydd gweddill yr amodau yn dal i fod yn berthnasol.
Y gyfraith
15.Mae cyfreithiau Cymru a Lloegr yn gymwys i’ch defnydd o’r wefan a’r amodau hyn. Rydym ni’n rheoli’r wefan o fewn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, gallwch gyrchu’r wefan o leoedd eraill ledled y byd. Er, efallai y bydd gan y lleoedd hyn gyfreithiau gwahanol i gyfreithiau Cymru a Lloegr, drwy ddefnyddio’r wefan rydych chi’n cytuno y bydd cyfreithiau Cymru a Lloegr yn berthnasol i bopeth sy’n ymwneud â chi ddefnyddio’r wefan ac rydych chi’n cytuno i gadw at y cyfreithiau hyn. Mae gennym yr hawl i fynd â chi i’r llys yn y wlad rydych chi’n byw ynddi.
