English Welsh

Ein Hymrwymiad i Gynaliadwyedd

Helpu’r sector adeiladu i gyflawni sero net a chreu cenedl fwy cynaliadwy er budd pawb, nawr ac yn y dyfodol

Adeiladu ar gyfer yfory

O fewn Grŵp Hogan, mae Cynaliadwyedd yn ganolog ac yn sylfaenol i’w holl weithgareddau ac mae’n canolbwyntio ar wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru a’i phobl. Mae’n chwarae ei rôl wrth helpu’r sector adeiladu i gyflawni sero net ac mae wedi ymrwymo i’r nod cyffredinol o fod Cymru yn dod yn genedl fwy cynaliadwy er budd pawb, nawr ac yn y dyfodol.

Rydym ni’n cymhwyso ein systemau rheoli integredig, sydd wedi’u hachredu i safonau a gymeradwywyd gan y diwydiant, i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoleiddio, ac i reoli a gwella diogelwch, iechyd, lles, yr amgylchedd, ansawdd, effeithlonrwydd ynni, lleihau carbon ac adnoddau cyfrifol.

Gwerthoedd Cymdeithasol

Mae ein busnes wedi'i adeiladu ar berthnasoedd cymunedol cryf. Rydym ni\n buddsoddi mewn cyflogaeth leol, prentisiaethau, a phartneriaethau cyflenwyr sy'n cryfhau economïau rhanbarthol. Trwy gefnogi mentrau cymdeithasol a blaenoriaethu diogelwch, lles a chynhwysiant, rydym ni’n anelu at greu gwerth parhaol i'r cymunedau lle rydym yn gweithredu.

Datgarboneiddio

Rydym ni wedi ymrwymo i leihau ein hôl troed carbon ar draws pob gweithrediad o chwareli a chynhyrchu asffalt i gyflenwi concrit ac arwynebu ffyrdd. Trwy offer ynni-effeithlon, cerbydau allyriadau is, tanwyddau amgen, ac optimeiddio prosesau parhaus, rydym ni’n gweithio tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy, carbon isel ar gyfer y gadwyn gyflenwi adeiladu ac anghenion seilwaith ehangach.

Economi Gylchol

Mae ein cynnyrch a’n gwasanaethau wedi’u cynllunio yn unol ag egwyddorion yr economi gylchol. Rydym ni’n gwneud y mwyaf o ailddefnyddio asffalt wedi'i adfer, agregau wedi'u hailgylchu, a choncrit wedi’i ddychwelyd, gan sicrhau bod adnoddau yn cael eu cadw mewn defnydd cyhyd â phosibl. Mae hyn yn lleihau gwastraff, yn cadw deunyddiau naturiol, ac yn cefnogi cadwyn gyflenwi fwy effeithlon a chyfrifol. Mae cynaliadwyedd wrth wraidd yr hyn rydym ni’n ei wneud, gan flaenoriaethu costau a pherfformiad oes gyfan, a sicrhau gwydnwch cynnyrch hirdymor ynghyd â manteision amgylcheddol i’n cleientiaid.

Amgylchedd Naturiol

Mae diogelu'r amgylchedd naturiol yn ganolog i'r ffordd rydym ni'n gweithredu. Rydym ni’n rheoli ein chwareli a'n safleoedd cynhyrchu yn ofalus, gan hyrwyddo bioamrywiaeth, defnydd cyfrifol o ddŵr, ac adfer cynefinoedd. Trwy integreiddio stiwardiaeth amgylcheddol i’n harferion dyddiol, rydym ni’n helpu i ddiogelu a, lle bo modd, gwella’r tirweddau naturiol sy’n cynnal ein busnes a’n cymunedau.