ANSAWDD WRTH WRAIDD POPETH RYDYM NI’N EI WNEUD
Yn Hogan mae ansawdd yn obsesiwn. Dyma'r rheswm pam eich bod chi'n cael deunyddiau y gallwch chi ymddiried ynddynt, gwasanaeth y gallwch chi ddibynnu arno, a phrosiectau sy'n cael eu cyflawni'n iawn y tro cyntaf.
MAE ANSAWDD GWARANTEDIG YN FWY NA SLOGAN.
Mae popeth rydym ni’n ei wneud yn cael ei ategu gan gred graidd os oes angen gwneud rhywbeth, mae angen ei wneud yn iawn. Mae’n rhan o’n hethos a’n gwaith bob dydd. Dyma sut rydym ni’n sicrhau bod pob cwsmer yn cael deunyddiau sy’n perfformio, gwasanaeth y gallant ddibynnu arno, a phrosiectau sy’n cael eu cyflawni’n iawn y tro cyntaf.
- Deunyddiau sy’n perfformio
- Dan sy’n cyrraedd ar amser
- Llai o broblemau ar y safle
- Llai o risg
- Hyder y bydd y gwaith yn cael ei wneud yn iawn

DEGAWDAU O FFOCWS AR ANSAWDD
Mae ansawdd yn rhedeg trwy bob rhan o'n busnes, o wyneb y chwarel i safle’r cwsmer a'r cymunedau rydym ni'n eu gwasanaethu.
ANSAWDD WEDI'I REOLI
Mae profion annibynnol achrededig UKAS, ardystiad ISO 9001 a rheoli ansawdd yn ddyddiol yn darparu hyder ym mhob cynnyrch rydym ni’n ei gyflenwi.
SLOTIAU DANFON GYDAG AMSER
Mae slotiau danfon gydag amser yn helpu contractwyr a thimau prosiect i leihau amser sefyll a chostau llafur ar y safle.
"GWARCHEIDWAID ANSAWDD" AR Y SAFLE
Mae gyrwyr a staff gweithfeydd yn datrys problemau'n gynnar, gan leihau costau a helpu eich prosiect i fynd yn iawn y tro cyntaf.
BUDDSODDIAD HIRDYMOR MEWN SGILIAU
Buddsoddiad hirdymor mewn prentisiaethau a chrefftwaith ar draws ein chwareli a'n gweithfeydd concrit ac asffalt er mwyn diogelu sgiliau ar gyfer y dyfodol.
GWARANT ARIAN YN ÔL
Mae ein hyder yn ein pobl, ein cynhyrchion a'n prosesau yn caniatáu i ni gynnig gwarant arian yn ôl ar bob prosiect os nad yw'r cynnyrch yn bodloni'r fanyleb. Mae ansawdd yn rhan annatod o'r ffordd rydym ni’n gwneud ein gwaith, yn rheoli ein deunyddiau ac yn galluogi ein pobl i gyflawni ein haddewid o ran ansawdd.
DEUNYDDIAU O ANSAWDD
Deunyddiau o ansawdd, wedi'u rheoli o ran ansawdd o'r dechrau i'r diwedd i sicrhau gwydnwch, gorffeniad ac addasrwydd i'r diben. Ein nod yw darparu mwy na gwaith di-nam - rydym ni’n anelu at ansawdd sy'n rhagori ar y manylebau, y gallwch chi ei weld a'i deimlo ym mhob prosiect.
GWASANAETH PERSONOL
Fel estyniad o'ch tîm, rydym ni’n rhannu cyfrifoldeb am y gwaith. Rydym ni’n gofyn cwestiynau, yn dylunio’n bwrpasol, yn gwirio'r manylion bach, ac yn cydlynu popeth i gael popeth yn iawn y tro cyntaf. Rydym ni’n rhagweithiol wrth helpu eich rheolwyr i gynllunio ac wrth ganfod problemau cyn iddynt effeithio ar eich safle.
POBL O SAFON
Does dim dolen wan yn nhîm Hogan. Mae pob un o'n staff wedi dysgu'r busnes o'r gwaelod i fyny. Mae pob person yn byw ein gwerthoedd craidd o wneud y peth iawn a gwneud pethau'n iawn.
DIOGELWCH YN GYNTAF
Mae gweithio diogel yn sylfaenol i ansawdd. Mae prosesau cyson a safonau uchel yn helpu i leihau risg a chreu gweithleoedd mwy diogel i bawb.
ADDEWID ANSAWDD CONCRIT
- Fel arfer, rydym ni’n dylunio cymysgeddau gyda chryfder ychwanegol o 8–10N uwchlaw’r fanyleb, gan helpu i sicrhau perfformiad dibynadwy hyd yn oed pan fo amodau’r safle’n amrywio.
- Mae canlyniadau profion labordy yn dangos yn gyson fod cymysgeddau Hogan yn rhagori’n sylweddol ar y cryfder 28 diwrnod a bennwyd yn y fanyleb. Mae’r cryfder hwn yn cael ei fonitro’n ddyddiol a’i addasu pan fydd tueddiadau’n dangos cynnydd neu ostyngiad, er mwyn sicrhau’r ansawdd gorau.
- Nid yn y labordy yn unig y mae ansawdd yn cael ei sicrhau: mae ein timau dosbarthu’n cysylltu’n rhagweithiol â chwsmeriaid ynghylch risgiau’r tywydd (gwres, oerfel a glaw), ac yn nodi hyn ar y tocynnau, er mwyn osgoi problemau gyda’r gorffeniad a chracio.
- Mae ein gweithfeydd concrit yn defnyddio cromliniau polynomial sy’n seiliedig ar ddata’r labordy i reoli’r meddalwedd gymysgu, felly, pan fyddwch chi’n dewis cryfder, bydd y system yn dewis y rysáit gywir yn awtomatig. Mae’r cromliniau’n cael eu diweddaru’n barhaus ar sail canlyniadau profion ciwbiau concrit go iawn – felly, nid yw’r gweithfeydd yn dyfalu – mae’r meddalwedd yn pennu’r cymysgedd ar sail sut mae’r cymysgedd wedi perfformio dros amser.
- Diolch i achrediad ac ardystiad BS EN ISO 9001, gallwch fod yn hyderus yn ein gallu i fodloni unrhyw fanyleb ofynnol. Mae ardystiad BSI yn dileu’r angen am dreialon safle a phrofion arferol a all arwain at oedi ac yn darparu sicrwydd o gynnyrch trwy archwiliad annibynnol.
- Byddwn yn onest ynghylch yr hyn sy’n realistig ei gyflawni mewn diwrnod, a byddwn yn darparu cerbydau ychwanegol lle bo angen, yn hytrach nag addo’r byd a methu â chyflawni.
ADDEWID ANSAWDD AGREGAU
- Mae rheoli ansawdd agregau yn gyfrifoldeb dyddiol ar y safle. Mae’r arweinydd technegol yn ymweld â’r chwareli, yn archwilio’r deunydd yn weledol, yn atal cynhyrchu os bydd unrhyw beth o’i le, ac yn cofnodi popeth er mwyn diogelu ansawdd y cynnyrch.
- Mae ein tîm yn monitro ansawdd a graddio’n barhaus, nid dim ond ar ddechrau’r broses, drwy gylch parhaus o samplu, gwirio ac addasu.
- Mae pob tunnell yn cael ei chefnogi gan brofion trwyadl, achrededig gan UKAS a system reoli integredig wedi’i hardystio i ISO 9001.
- Mae’n cymryd blynyddoedd i fod yn gyfarwydd ag agregau mewn gwirionedd. Rydym ni’n deall y chwarel yn drylwyr, rydym ni’n gwybod pryd mae wyneb y chwarel wedi newid, pryd nad yw agen y graig yn iawn, a phryd mae angen addasu’r gosodiadau i sicrhau’r cynhyrchiant gorau posibl.
- Mae timau’r chwareli yn cael hyfforddiant trylwyr dros gyfnod hir, gan feithrin y sgiliau i ddeall y deunydd ac i wneud addasiadau manwl yn reddfol. Mae ansawdd yn reddfol – gwybod pryd mae wyneb y chwarel wedi newid, pryd nad yw agen y graig yn iawn, a phryd mae angen addasu’r gosodiadau fel nad yw’n dod yn broblem.
ADDEWID ANSAWDD ASFFALT
- Mae ein cymysgeddau bitwminaidd wedi’u profi gan UKAS i safonau BS EN 13108 ac wedi’u cynllunio i bara, gyda ffyrdd yn dal i berfformio degawdau yn ddiweddarach.
- Mae cymysgeddau asffalt yn cael eu dylunio yn unol â’r safonau perthnasol, ond yn Asffalt HOGAN rydym ni’n sicrhau’r cyfuniad gorau o’r deunyddiau cyfansoddol er mwyn optimeiddio perfformiad y deunydd, mae hyn yn sicrhau nad yw’r cymysgeddau’n rhy sych ac y gellir eu cywasgu’n gywir i sicrhau gwydnwch hirdymor.
- Mae labordai sydd wedi’u hachredu gan UKAS yn ymweld â’r safle, yn cymryd eu samplau eu hunain ac yn cynnal profion adfer rhwymydd a graddio i wirio bod y gymysgedd a gynhyrchwyd yn cyfateb i’r rysáit a bennwyd yn y fanyleb.
- Rydym ni’n olrhain cydymffurfiaeth yn barhaus trwy system bwrpasol, gan ddefnyddio canlyniadau treigl i fonitro perfformiad parhaus a gwneud cywiriadau bach.
- Mae sypynnu asffalt yn grefft: mae gweithredwyr profiadol y gweithfeydd yn monitro sain y peiriannau, y tymheredd a llwyth y moduron, gan wneud addasiadau manwl mewn amser real. Mae’n cymryd o leiaf chwe mis i hyfforddi sypynnwr newydd yn iawn.
