Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol
Yn Hogan, ein nod ni yw darparu gwasanaeth gwerth gorau sy’n bodloni anghenion ein cleientiaid o fewn amgylchedd diogel a chynaliadwy. Rydym yn ymgysylltu â’r cymunedau y mae ein gwaith yn effeithio arnynt ac yn eu cael o fudd trwy gyfathrebu dwyieithog parhaus, a thrwy ddarparu cefnogaeth gymunedol trwy Sefydliad Hogan.
Sefydliad Hogan
Rydym wedi mynd â’n hymgysylltiad cyhoeddus gam ymhellach trwy sefydlu Sefydliad Hogan, sy’n rhoi modd i Hogan roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau lle rydym yn byw ac yn gweithio. Mae’r ymrwymiad hwn i gynnwys y gymuned, yn unol â’n gwerthoedd, yn fodd cadarnhaol a rhagweithiol iawn o ymgysylltu â’r cyhoedd.
Amgylchedd Cynaliadwy
Mae Hogan wedi ymrwymo i welliannau parhaus mewn cynaliadwyedd amgylcheddol, gan sicrhau ein bod yn diwallu anghenion datblygu’r presennol heb effeithio ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Gyda’n systemau rheoli amgylcheddol wedi’u hachredu i BS EN ISO 14001, rydym wedi ymrwymo i ostwng allyriadau carbon, gwarchod adnoddau naturiol a lleihau gwastraff.
Mae’r ymrwymiad hwn yn cael ei adlewyrchu yn ein buddsoddiad parhaus mewn adnoddau mewnol cynhwysfawr ar gyfer gweithio cynaliadwy gwell, creu ein canolfan ailgylchu ein hunain, achrediad i safonau’r diwydiant, a glynu wrth arfer gorau’r diwydiant.
Enw Da
Trwy’r dulliau hyn a llywodraethu da, mae Hogan Aggregates, Hogan Asphalt, Hogan Concrete a Hogan Construction wedi meithrin enw da fel sefydliadau dibynadwy sy’n ymfalchïo’n fawr mewn gweithredu’n gyfrifol ac yn foesegol bob amser.
Credwn ei bod yn ddyletswydd arnom ni, fel eich partner adeiladu neu gyflenwi, i greu a chynnal enw da cadarnhaol yng ngolwg y cyhoedd. Mae hyn yn arbennig o wir o ran contractau adeiladu. Mae ein rhaglen gyfathrebu ddwyieithog yn cynnwys hysbysiadau ac arwyddion, prosesau cwynion cwsmeriaid ac adborth, brandio a chyfathrebu ar-lein.
