Polisi Preifatrwydd
Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn ymwneud â’r ffordd y defnyddir gwybodaeth a gesglir. Nid oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei chasglu ond cesglir gwybodaeth am sut mae defnyddwyr yn cyrchu ac yn defnyddio’r wefan hon.
1.Y wybodaeth a gesglir ac a ddefnyddir
Os ydych yn defnyddio’r wefan hon, chi sy’n rheoli pa wybodaeth a gesglir. Fodd bynnag, os byddwch chi’n dewis peidio â rhannu eich gwybodaeth, mae’n bosibl na fyddwch chi’n gallu cyrchu rhai rhannau o’r wefan hon na’u defnyddio.
1a. Sut mae gwybodaeth yn cael ei chasglu
Gellir casglu, storio a defnyddio’r wybodaeth hon pan fyddwch chi’n defnyddio’r wefan hon a phan fyddwch yn ffonio’r Hysbysebwr.
1b.Pa wybodaeth a gesglir
Gall y wybodaeth a gesglir ac a gedwir gynnwys y canlynol, ond nid yw’n gyfyngedig i’r rhain:
- gwybodaeth am eich cyfrifiadur ac am eich ymweliadau â’r wefan, a’r defnydd ohoni (gan gynnwys eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol bras, math o borwr, ffynhonnell atgyfeirio, hyd yr ymweliad a nifer y tudalennau yr ymwelwyr â nhw);
- os ydych chi’n ffonio’r Hysbysebwr, eich rhif ffôn a/neu ffôn symudol ac amser, dyddiad a diwrnod yr wythnos a hyd eich galwad; ac
- unrhyw wybodaeth arall y gallwch chi ei darparu i ddarparwr y wefan hon.
1c.Defnyddio cwcis neu storfa arall ar ddyfais
Mae cwcis yn ffeiliau gwybodaeth sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar sy’n helpu gwefannau i gofio pwy ydych chi a gwybodaeth am eich ymweliad. Am ragor o wybodaeth (gan gynnwys sut i optio allan o gwcis) ewch i’r Polisi Cwcis.
2.Sut mae gwybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio
2a.Pan fyddwch chi’n defnyddio’r wefan hon
Pan fyddwch chi’n defnyddio’r wefan hon, caiff gwybodaeth ei chasglu. Bydd yn cael ei ddefnyddio at y dibenion a nodir yn y polisi preifatrwydd hwn.
2b.Addasu’r wefan hon a thargedu hysbysebion
Gellir defnyddio’r wybodaeth a gesglir pan fyddwch chi’n defnyddio’r wefan hon i greu darlun o’ch diddordebau. Gellir defnyddio’r wybodaeth hon i geisio sicrhau na fyddwch chi’n colli cynigion na gwybodaeth a allai fod o ddiddordeb i chi pan fyddwch yn ymweld â’r wefan neu’n ei defnyddio. Yr enw ar hyn yw targedu hysbysebion.
2C.Olrhain sut mae’r wefan yn cael ei defnyddio
Gellir casglu gwybodaeth am weithgarwch ar y wefan, neu gellir defnyddio sefydliadau eraill i’w chasglu ac i’w rhannu. Defnyddir y wybodaeth hon i wneud y canlynol:
- dadansoddi ystadegau;
- olrhain tudalennau a llwybrau a ddefnyddir gan ymwelwyr i’r wefan, neu ddefnyddwyr y wefan;
- targedu hysbysebion neu gynigion, fel baneri, ar y wefan ac ar wefannau sefydliadau eraill; ac
- olrhain y defnydd o hysbysebion baner ar y rhyngrwyd a dolenni eraill o wefannau partneriaid marchnata i’r wefan hon.
At y dibenion hyn, bydd gwybodaeth am y llwybr a gymerwch i gyrraedd y wefan ac am rai o’r tudalennau y byddwch chi’n ymweld â nhw neu’n eu defnyddio drwy’r wefan, gan ddefnyddio cwcis, ffaglau gwe a dulliau storio eraill ar y ddyfais, yn cael ei chadw. Am wybodaeth am ffaglau gwe, neu’r sefydliad a ddefnyddir (gan gynnwys sut i wrthod eu cwcis), ewch i’r Polisi Cwcis.
2d.Dadansoddi nifer galwadau
Os byddwch chi’n ffonio’r Hysbysebwr gan ddefnyddio’r rhif sy’n ymddangos ar y wefan, efallai y byddwn yn cofnodi eich rhif ffôn, amser, dyddiad, diwrnod yr wythnos a hyd yr alwad a manylion penodol ynghylch a atebwyd yr alwad ai peidio. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda’r Hysbysebwr a’i defnyddio i ddadansoddi effeithiolrwydd y wefan.
3.Datgelu eich gwybodaeth
Gellir trosglwyddo eich gwybodaeth i un neu ragor o’r sefydliadau canlynol:
- yr Hysbysebwr;
- cwmnïau prosesu data, tai postio a chyflenwyr trydydd parti eraill; a
- llywodraeth ac asiantaethau gorfodi a’r heddlu.
O bryd i’w gilydd, gall hyn olygu anfon eich gwybodaeth y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Am ragor o wybodaeth, darllenwch adran 4 – Lle mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu.
O bryd i’w gilydd, derbynnir ceisiadau am wybodaeth gan adrannau’r llywodraeth, yr heddlu ac asiantaethau gorfodi eraill. Os bydd hyn yn digwydd, a bod sail gyfreithiol briodol ar gyfer darparu eich gwybodaeth, bydd yn cael ei darparu i’r sefydliad sy’n gofyn amdani.
4.Lle mae eich gwybodaeth yn cael ei phrosesu
Pan ddefnyddir eich gwybodaeth fel y disgrifir yn adran 2 – Sut mae gwybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio, gall hyn olygu anfon eich gwybodaeth y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) yn achlysurol. Pan wneir hyn, cymerir camau priodol i ddiogelu eich gwybodaeth. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n cytuno y gall eich gwybodaeth gael ei throsglwyddo, ei storio a’i phrosesu y tu allan i’r AEE.
5.Sut mae eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel
Mae diogelwch gwybodaeth yn cael ei gymryd o ddifrif iawn. Mae polisïau technoleg a diogelwch ar waith i ddiogelu’r wybodaeth a gedwir.
- Galwadau Ffôn
Gellir monitro neu gofnodi galwadau ffôn a wneir ar ffonau Cwmni at ddibenion ansawdd, hyfforddiant ac ymchwilio. Os ydych chi’n dymuno gwneud galwad bersonol nad ydych yn dymuno iddi gael ei monitro na’i chofnodi, dylech siarad â’ch Rheolwr uniongyrchol.”
7.Sut y gall newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn ddigwydd
Mae’n bosibl y bydd y polisi preifatrwydd hwn yn cael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd, felly efallai y byddwch am ei wirio bob tro y byddwch yn ymweld â’r wefan.
