Cystadleuol mewn pris, yn creu argraff o'r diwrnod cyntaf.
Paul Simm - AJC Construction
Daeth prosiect i fyny yn Siemens Technology yn Llanberis, sy’n agos i Hogan. Fe ddaethon nhw i mewn gyda phris cystadleuol iawn pan ofynnwyd iddynt am ddyfynbris ar gyfer pecyn islawr a sylfeini. Maen nhw wedi creu argraff fawr arnaf fi o’r diwrnod cyntaf.
Ymatebol ac o gwmpas eu pethau.
Maen nhw’n ymatebol iawn, gan ymateb yn union fel y gofynnwyd. Maen nhw’n gofyn cwestiynau manwl iawn, yn enwedig gyda deunyddiau mwy cymhleth neu anarferol, ac fe roddodd hyn hyder gwirioneddol i mi eu bod nhw’n edrych i mewn i bopeth yn iawn.
Roedden nhw hefyd yn gweithio’n agos gyda chyflenwyr yn y gadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau bod y cymysgeddau’n gywir – arwydd gwirioneddol eu bod nhw’n mynd yr ail filltir.
Concrit ar y safle, ar amser – gan sicrhau nad yw criwiau na phympiau byth yn gorfod aros.
Roedd cymeradwyo’r dyluniadau cymysgedd gyda’r cleient yn syml, ac ar y safle nid oedd unrhyw broblemau o gwbl. Roedd y concrit bob amser yn cyrraedd o fewn yr amserlen y cytunwyd arni, sy’n hanfodol i ni gan y gall fod gennym griw o bump neu chwech o weithwyr a phwmp concrit yn disgwyl ar y safle, ac mae unrhyw oedi yn golygu cost ychwanegol.
Dydw i heb gael unrhyw adborth negyddol o’r safle – fel arfer rwy’n clywed yn gyflym iawn os oes problem gyda’r cyflenwad. Mae ansawdd concrit Hogan wedi bod yn gyson dda – gyda chyflenwyr eraill rydym ni wedi cael concrit yn cyrraedd yn rhy wlyb neu’n rhy sych, ond nid ydym wedi cael y broblem honno gyda Hogan, ac mae’r holl giwbiau prawf wedi perfformio yn ôl y disgwyl.
Mae eu cyfathrebu, eu dibynadwyedd a’r ffaith bod eu prisiau yn parhau i fod yn gystadleuol wedi creu argraff arnaf.
Mewn tri gair byddwn yn disgrifio Hogan fel proffesiynol, safonol a dibynadwy. Rwy’n hapus iawn yn gweithio gyda nhw.
