Deunyddiau o safon
Asffalt wedi’i rolio’n boeth

Asffalt
Asffalt wedi'i Rolio’n BoethWedi'i greu ar gyfer ffyrdd prysur a gwaith caled
Mae ein asffalt wedi’i rolio’n boeth sy’n cael ei alw hefyd yn HRA wedi’i adeiladu i wrthsefyll defnydd trwm, ddydd ar ôl dydd. Dyma’r deunydd rydym ni’n ei ddefnyddio ar gyfer ffyrdd prysur, priffyrdd a seilwaith sy’n gweithio’n galed, lle mae dibynadwyedd yn hanfodol.
Mae’r gymysgedd wedi’i chynllunio i wrthsefyll llwythi trwm heb ddechrau chwalu, gan ei gwneud yn ddewis cadarn ar gyfer wyneb ffyrdd, palmentydd a meysydd parcio. Mae ei orffeniad trwchus â gwead tynn yn atal dŵr rhag treiddio, gan helpu i leihau difrod a sicrhau bod yr wyneb yn perfformio’n effeithiol am gyfnod hirach.
Rydym ni’n rhoi ansawdd a chywirdeb wrth wraidd pob swp rydym ni’n ei gyflenwi. Mae’n cael ei gynhyrchu i safonau diwydiant llym ac wedi’i deilwra i fodloni gofynion penodol eich prosiect.
P’un a ydych chi’n adeiladu priffyrdd newydd neu’n ymestyn oes llwybrau presennol, mae’n darparu wyneb cadarn y gallwch chi ddibynnu arno.

Wedi'i Gynllunio ar gyfer Ardaloedd â Thraffig Trwm
Perfformiad Hirhoedlog
Gwydnwch Eithriadol, Gorffeniad Llyfn
Cyngor Arbenigol Ar Eich Gofynion
FAQs
Ar gyfer beth mae asffalt yn cael ei ddefnyddio?
Ffyrdd a phriffyrdd: Yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adeiladau newydd ac ail-wynebu ar bopeth o ffyrdd lleol i brif lwybrau, cario ceir, HGVs a bysiau trwy’r dydd.
Meysydd parcio ac iardiau: Cyffredin mewn ardaloedd parcio archfarchnadoedd, manwerthu a diwydiannol lle mae angen wyneb sefydlog sy’n gallu gwrthsefyll cerbydau’n troi a llwytho.
Rhedfeydd a meysydd awyr: Yn cael ei ddefnyddio ar redfeydd, atredfeydd a phalmentydd lle mae angen wyneb caled, hyblyg o dan awyrennau’n glanio a throi.
Dreifs a llwybrau: Yn cael ei ddefnyddio’n aml ar gyfer dreifs, palmentydd, llwybrau beicio a llwybrau a rennir i roi gorffeniad llyfn, glân sy’n hawdd gofalu amdano.
Atgyweiriadau ac Ardaloedd Defnydd Trwm: Yn cael ei ddefnyddio ar gyfer atgyweirio tyllau yn y ffordd ac mewn iardiau prysur a safleoedd diwydiannol lle mae lorïau HGV a pheiriannau’n symud drwy’r dydd.
Beth yw asffalt wedi'i rolio'n boeth?
Mae asffalt wedi’i rolio’n boeth (HRA) yn gymysgedd wynebu ffyrdd trwchus sy’n gwrthsefyll traul, ac mae’n cael ei ddefnyddio lle bynnag mae angen gorffeniad cadarn a dibynadwy. O ffyrdd prysur a chyffyrdd i feysydd parcio a strydoedd trefol.
Gwydnwch: Mae asffalt wedi’i rolio’n boeth yn yn gallu gwrthsefyll traffig trwm cyson, felly nid yw’n rigoli nac yn symud o’i le o dan lorïau, bysiau na cherbydau sy’n troi’n dynn.
Ymwrthedd Llithro: Mae cerrig mân yn cael eu rholio i mewn i’r wyneb er mwyn creu gwead a gafael, gan helpu gyrwyr i frecio a llywio’n fwy hyderus, yn enwedig mewn amodau gwlyb.
Hirhoedledd: Pan fydd yn cael ei ei osod a’i gynnal a gadw’n iawn, mae asffalt wedi’i rolio’n boeth yn cynnig bywyd gwasanaeth hir, gan leihau nifer yr ymyriadau a’r atgyweiriadau sydd eu hangen dros amser.
Defnydd amlbwrpas: Mae’n cael ei ddefnyddio’n helaeth ar ffyrdd, priffyrdd, canol trefi ac ardaloedd parcio lle mae angen wyneb cadarn a llyfn sy’n gallu gwrthsefyll traffig cyson.
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng HRA ac SMA?
Mae HRA (asffalt wedi’i rolio’n boeth) a SMA (asffalt mastig cerrig) ill dau yn gymysgeddau asffalt caled, ond maen nhw’n cael eu hadeiladu a’u defnyddio’n wahanol. Mae HRA yn wyneb trwchus, trwm sydd wedi’i adeiladu i ymdopi â chyfeintiau traffig mawr a llawer o droi, felly fe’i defnyddir yn aml lle mae’r llwyth uchaf. Mae SMA fel arfer yn cael ei ddewis pan fo angen wyneb tawelach gyda mwy o wead a gafael, er enghraifft ar rai prif ffyrdd neu gyffyrdd.
Yn y pen draw, mae’r dewis yn dibynnu ar ofynion y prosiect – lefelau traffig, lleoliad ac unrhyw fanyleb mae’n rhaid ei dilyn – a bydd y dylunydd yn dewis y gymysgedd sy’n gweddu orau i’r gofynion hynny. Yn syml, asffalt poeth yw’r dewis naturiol pan fydd angen wyneb llyfn sy’n gwrthsefyll traul ac sy’n gallu ymdopi â defnydd trwm heb ddechrau chwalu. Byddwch yn ei weld amlaf ar ffyrdd, meysydd parcio ac ardaloedd palmantog prysur eraill oherwydd ei fod yn cael ei osod yn gyflym, yn gallu gwrthsefyll traffig trwm ac, os bydd yn cael ei osod yn gywir, bydd yn para am flynyddoedd.
Angen Asffalt wedi’i rolio’n boeth Ar gyfer Eich Prosiect Nesaf?
Ymateb cyflym. Dim erlid. Pobl go iawn. Gwasanaeth go iawn.
